#

Y Pwyllgor Deisebau | 03 Gorffennaf 2018
 Petitions Committee | 03 July 2018
 
 
 ,P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-822

Teitl y ddeiseb: Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried gwahardd y defnydd o wellt plastig sy'n cael eu defnyddio wrth yfed llaeth yn ein hysgolion. Fel ysgol fawr, derbyniwn tua 285 o boteli llaeth (ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) yn ddyddiol gan gynnwys yr un nifer o wellt. Yn sgil yr ymgyrch byd-eang i leihau gwastraff plastig teimlwn fod gwellt plastig yn cael effaith andwyol ar ein hamgylchedd, yn enwedig wrth ystyried eu bod yn cael eu defnyddio unwaith ac yna eu taflu. Pe bawn yn parhau gyda’r arfer hwn, byddai hyn yn arwain at y posibilrwydd y bydd mwy o blastig yn ein moroedd na physgod erbyn 2050. Y ffaith amdani yw bod yr holl wellt hyn yn cyfrannu'n sylweddol at lygru ein moroedd ac mae bywyd gwyllt mewn perygl.

Y cefndir[SL(CyC|AC1] 

Mae plastigau untro, neu blastigau a deflir i ffwrdd, wedi'u cynllunio i gael eu defnyddio unwaith a'u taflu neu eu hailgylchu. Yn nodweddiadol, eitemau fel poteli plastig, gwellt yfed, cwpanau coffi a deunydd pecynnu cludfwyd ydynt. Mae sylw diweddar yn y cyfryngau, yn arbennig cyfres Blue Planet II y BBC, wedi tynnu sylw at raddfa’r gweddillion plastig yn ein cefnforoedd o ganlyniad i'n diwylliant 'taflu'. Mae effaith plastig untro ar yr amgylchedd morol yn cael ei amlygu oherwydd pa mor gyffredin ydyw mewn arolygon sbwriel traeth. Dangosodd Adroddiad Beachwatch Y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn 2017 mai darnau bach o blastig oedd yr eitemau a ganfuwyd fwyaf ar draethau ledled y DU.

Roedd adroddiad yn 2017 Single Use Plastic and the Marine Environment gan Eunomia ar gyfer Seas at Risk, yn cyfrif maint y gwastraff plastig untro a oedd 'ar hyd y lle' gan mai'r rhain sydd fwyaf tebygol o osgoi systemau casglu gwastraff arferol. Mae prif ganfyddiadau'r gwaith ymchwil yn cynnwys y canlynol:

§  nid oes angen i lawer o'r eitemau hyn gael eu gwneud o blastig (e.e. mae dewisiadau eraill fel gwydr a phapur yn bodoli), tra bo eraill yn cael eu defnyddio'n ddiangen (e.e. gwellt yfed);

§  mae mesurau i leihau'r defnydd o blastig yn cael cefnogaeth uchel gan y cyhoedd, sy'n cynyddu ar ôl i'r mesurau gael eu rhoi ar waith;

§  mae atebion yn bodoli i leihau'r defnydd o blastigau untro, ac maent wedi bod yn rhedeg mewn mannau lluosog ledled y byd; a

§  byddai lleihau'n sylweddol y defnydd o eitemau plastig untro allweddol yn dileu’n effeithiol ffynhonnell fawr o lygredd morol yn holl foroedd Ewrop.

Roedd adroddiad yn 2018 gan Eunomia, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, Dewisiadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd yng Nghymru, yn amcangyfrif bod "cyfanswm o 404 miliwn o wellt yn cael eu defnyddio bob blwyddyn” yng Nghymru, ac "mae hyn gyfwerth a sgil-gynhyrchion gwastraff o ryw 150 tunnell o ddeunydd. "  Aeth rhagddo i ddweud:[SL(CyC|AC2] 

Mae’r rhan fwyaf o wellt yfed wedi’u gwneud o bolypropylen, sy’n ailgylchadwy, ond nid oes llawer o’r cynhyrchion hyn yn cael eu gwahanu ar gyfer ailgylchu. Heb ddata pellach, rydym wedi tybio bod y cyfraddau ailgylchu ar gyfer y cynhyrchion hyn yn debyg i’r rhai ar gyfer cwpanau untro, sef 5%, ac felly mae 7.5 tunnell o wellt yn cael eu hailgylchu bob blwyddyn yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn amcangyfrif costau diwedd oes nifer o eitemau untro yng Nghymru. Amcangyfrifir mai 'Cyfanswm Cost Gweddilliol Trefol' defnyddio gwellt plastig yng Nghymru yw £ 22,566, sef cost o 0.01c yr eitem. Fodd bynnag, o ganlyniad i natur 'ar hyd y lle'  gwellt, mae oddeutu 13 tunnell o wellt plastig yn cael eu taflu fel sbwriel bob blwyddyn. Amcangyfrifir bod hyn yn costio £ 29,430, sef cost o 0.08c yr eitem.

Mae Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr[SL(CyC|AC3]  (EPR), fel y’i cyflwynwyd gan Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yr UE yn ffordd o annog cynhyrchwyr i ystyried cyfnod ôl-ddefnyddio cynnyrch, trwy roi cyfrifoldeb iddynt amdano. Byddai mabwysiadu ymagwedd EPR tuag at gyflenwi llaeth ysgol yn golygu annog cynhyrchwyr i leihau gwastraff wrth ddylunio deunydd pacio. [SL(CyC|AC4] [SL(CyC|AC5] 

Dulliau mewn ysgolion

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gaffael llaeth (a'i becynnu) gan gyflenwyr.

Gall ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun llaeth ysgol am ddim gynnig llaeth am ddim i blant y Cyfnod Sylfaen a llaeth wedi’i sybsideiddio ​​i ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2.  Yn y Cyfnod Sylfaen, mae'r Gymuned Ewropeaidd yn talu cymhorthdal ​​ac mae Llywodraeth Cymru yn talu cymhorthdal ​​ychwanegol. Ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2, mae Llywodraeth Cymru yn sybsideiddio ​​cost llaeth ysgol ochr yn ochr â'r Gymuned Ewropeaidd. Gall ysgolion, awdurdodau lleol, cyflenwyr neu sefydliadau eraill hawlio’r cymhorthdal.  Gall disgyblion cymwys gael hyd at 250ml o gynnyrch llaeth wedi’i sybsideiddio ​​bob diwrnod ysgol.

Gall cyflenwyr llaeth ysgol ddarparu llaeth i ysgolion mewn poteli mawr. Byddai'r ysgol wedyn yn ei ddosbarthu i ddisgyblion (mewn cwpannau), neu gellir ei ddarparu mewn dognau unigol y gellir eu pecynnu mewn cartonau sydd yn aml â gwelltyn ynghlwm mewn plastig, neu gall y cyflenwr ddarparu gwellt ar wahân.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mewn datganiad ysgrifenedig[SL(CyC|AC6]  ar 27 Medi 2017, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd, "fel Llywodraeth, rydym yn derbyn bod angen gwneud mwy i wella ein cyfradd ailgylchu ymhellach ac i fynd i'r afael â sbwriel a'r materion sy'n gysylltiedig â chymdeithas a diwylliant 'taflu'’. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, awgrymodd mai’r nod fyddai "atal sbwriel rhag mynd i mewn i'r amgylchedd yn y lle cyntaf", a "gwerthfawrogi'r adnoddau hynny rydym ni’n eu cymryd yn ganiataol yn rhy aml". Cyhoeddodd astudiaeth Eunomia i EPR (uchod) i asesu dewisiadau posibl, gan ddweud:[SL(CyC|AC7] 

Rwyf wedi comisiynu astudiaeth i asesu ymyriadau posibl i gynyddu gweithgarwch atal gwastraff, codi cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel ar y tir a sbwriel morol. Bydd cynlluniau cyfrifoldeb cynhyrchwyr, megis y cynlluniau sydd ar waith yn y DU ar hyn o bryd, yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil. Bydd Cynlluniau Dychwelyd Blaendal yn cael eu cynnwys hefyd. Bydd yr ymchwil hefyd yn asesu effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol posibl cynlluniau ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr (EPR), gan gynnwys unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru, a gyflwynwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Chwefror 2018, trafododd Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd, gamau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran plastigau untro:[SL(CyC|AC8] 

Rydym ni wedi sicrhau y bu Cymru’n rhan o alwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth ynglŷn â sut y bydd yn ymdrin â mater plastig untro, gan gynnwys drwy ddefnyddio treth.

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i weithio ar dreth plastig tafladwy annibynnol posibl ar gyfer Cymru. 

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru a gyflwynwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mai 2018, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd ganlyniadau'r astudiaeth EPR. Dywedodd:

Rwyf i'n ystyried diwygiadau i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr fel bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn talu cyfran fwy o gostau rheoli gwastraff.

... Rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EM ar dreth plastig untro i’r DU.

... Gallaf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb Plastigau y DU WRAP.

Cyhoeddodd hefyd ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i "ymarfer yr hyn yr ydym yn ei bregethu":

Rwyf i wedi ymrwymo i sicrhau nad oes plastig untro i’w weld yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn ...

... Nid ydym yn defnyddio gwellt, trowyr na chyllyll a ffyrc plastig yn ein ffreuturau. Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddylanwadu ar y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, er enghraifft drwy ddarparu contractau caffael deunyddiau tafladwy yn holl adeiladau Llywodraeth Cymru drwy weithio gyda Gwerth Cymru.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mehefin 2018, mewn ymateb i gwestiwn gan David Melding AC, llefarydd y Blaid Geidwadol, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i:

datblygu ystod o fesurau sy'n caniatáu i ni nodi tueddiadau a chamau gweithredu i helpu i leihau'r defnydd o blastigion, gan gynnwys pethau fel gwellt o fewn y sector cyhoeddus, ac yn enwedig mewn ysgolion

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafododd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb flaenorol ar wahardd deunydd pacio polystyren rhwng 2014 a 2016. Yn dilyn ymateb Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd, i'r Pwyllgor, cytunwyd nad oedd llawer mwy y gallai'r Pwyllgor ei wneud i fynd â'r mater yn ei flaen a chytunwyd i gau'r ddeiseb.[SL(CyC|AC9] 

Yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Ionawr 2018, mewn ymateb i ddatganiad gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ar y diwydiant bwyd a diod, tynnodd Joyce Watson AC sylw at yr ymgyrch 'Ditch the Straw'. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:[SL(CyC|AC10] 

Mae'r fenter gwellt plastig mor syml, ond mae’n bwysig ... Felly, gallai pethau bach fel newid o blastig i bapur-oherwydd rydym ni’n gwybod fod pobl yn awyddus i ddefnyddio gwellt – gallai arbed cymaint.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Mehefin 2018, gofynnodd Joyce Watson AC "a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried edrych ar atal, neu yn wir, leihau cyflenwad y mathau hynny o wellt drwy ei pholisi caffael cyhoeddus".

Mewn ymateb, atebodd Julie James AC, Arweinydd y Tŷ:

Mae gennym ni Gwerth Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gweithio'n agos gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a WRAP i ddatblygu a chyflawni sawl cynllun arbrofol ar y cyd ag awdurdodau lleol a phartneriaid ledled Cymru i ddangos dulliau newydd ym maes caffael sy'n llwyr ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae un o'r cynlluniau arbrofol hynny yn ymwneud â gwellt plastig. Mae swyddogion yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i ddatblygu amrywiaeth o ddulliau o nodi tueddiadau a gweithredu camau i leihau neu ddileu'r defnydd o blastigau, gan gynnwys deunydd pacio bwyd a gwellt, yn ein contractau yn y dyfodol.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 


 [SL(CyC|AC1]Mae'r holl gysylltiadau Saesneg yn unig yn yr adran hon

 [SL(CyC|AC2]https://gov.wales/topics/environmentcountryside/epq/waste_recycling/publication/final-report-options-for-extended-producer-responsibility-in-wales-final-report-executive-summary/?skip=1&lang=cy

 [SL(CyC|AC3]https://seneddymchwil.blog/2018/05/04/cyfrifoldeb-estynedig-cynhyrchwyr-gweinidog-dros-yr-amgylchedd-i-wneud-datganiad-ir-cyfarfod-llawn/

 [SL(CyC|AC4]https://seneddymchwil.blog/2018/05/04/cyfrifoldeb-estynedig-cynhyrchwyr-gweinidog-dros-yr-amgylchedd-i-wneud-datganiad-ir-cyfarfod-llawn/

 [SL(CyC|AC5]Dim Cymraeg

 [SL(CyC|AC6]https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2017/extendedproducerresponsibilityresearch/?skip=1&lang=cy

 [SL(CyC|AC7]https://llyw.cymru/about/cabinet/cabinetstatements/2017/extendedproducerresponsibilityresearch/?skip=1&lang=cy

 [SL(CyC|AC8]mae pob Cyfarfod Llawn yn cysylltu trawsgrifiad dwyieithog

 [SL(CyC|AC9]http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=9750&Opt=0

 [SL(CyC|AC10]Dim Cymraeg